Volunteens

Beth yw Volunteens?  

Prosiect arloesol a ddechreuwyd yn Hydref 2022 yw Volunteens, fel rhan o Rownd 2 y Grant Gwirfoddoli Strategol. Wedi ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weithredu gan WCVA a Gwirfoddoli yng Nghymru, crëwyd y prosiect hwn gyda’r nod o ddenu pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol pwrpasol. Blwyddyn o hyd oedd y cynllun gwreiddiol ar gyfer y prosiect, ond mae llwyddiant y prosiect wedi arwain at sicrhau nawdd pellach. Cafodd yr enw “Volunteens” ei ddewis gan y bobl ifanc eu hunain, yn adlewyrchu ethos ifanc y prosiect. 

Buddion Gwirfoddoli

Mae gwirfoddoli nid yn unig yn fudd i’r gymuned, ond hefyd i’r gwirfoddolwyr eu hunain. Mae ein Volunteens wedi nodi bod nifer o fuddion personol i wirfoddoli, gan gynnwys:

  • Sgiliau Newydd a Phrofiad Gwaith Gwerthfawr

    Mae gwirfoddoli yn cynnig profiad ymarferol a’r cyfle i ddatblygu sgiliau newydd sy’n gallu cael eu trosglwyddo i sawl maes. Mae’r profiad ymarferol hwn yn gallu codi safon CV gwirfoddolwyr, sy’n eu gwneud yn fwy apelgar i gyflogwyr potensial. Mae sgiliau megis rheoli prosiectau, gwaith tîm, arweinyddiaeth a chyfathrebu effeithiol yn aml yn cael eu datblygu drwy waith gwirfoddol. 

  • Gwneud Ffrindiau Newydd

    Mae gwirfoddoli yn creu cyfleoedd i gwrdd a chysylltu â chyfoed sy’n rhannu diddordebau tebyg. Gall hyn arwain at gyfeillgarwch hir-dymor a rhwydwaith cymorth gryf. Mae gweithio tuag at nodau cyffredin yn helpu i adeiladu cyfeillgarwch ac ymddiriedaeth rhwng gwirfoddolwyr, gan greu ymdeimlad cryf o gymuned a pherthyn. 

  • Gwella Iechyd Corfforol a Meddyliol a Lles

    Mae bod yn rhan o weithgareddau gwirfoddoli yn cyfrannu at iechyd a lles da. Mae tasgau corfforol yn gallu gwella ffitrwydd, tra bod elfennau cymdeithasol a seicolegol gwirfoddoli yn gallu cyfrannu at les meddyliol. Mae gwirfoddolwyr yn aml yn dweud eu bod yn teimlo llai o straen ac yn byw bywydau mwy bodlon. Mae’r weithred o helpu eraill hefyd yn gallu gwella hwyliau rhywun a lleihau symptomau iselder a phryder. 

  • Rhoi’n ôl i’r Gymuned

    Mae gwirfoddolwyr yn cael teimlad o foddhad a phwrpas wrth gyfrannu at eu cymuned.  Mae’r gallu i roi rhywbeth yn ôl yn gallu creu ymdeimlad cryf o gyfrifoldeb dinesig a balchder. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gynorthwyo gwasanaethau lleol, gan fynd i'r afael â materion cymdeithasol a gwella ansawdd bywydau pobl yn y gymuned. 

  • Magu Hyder

    Mae gwirfoddoli yn helpu i adeiladu hunan-barch a hyder trwy gynnig profiadau newydd, ac mae’r gallu i gwblhau tasgau a goresgyn heriau yn gallu helpu gwirfoddolwyr i fagu hunan-hyder yn eu galluoedd eu hunain. Gall derbyn cydnabyddiaeth a gwerthfawrogiad gan y gymuned atgyfnerthu’r teimlad o hunan-werth a hyder hefyd. 

  • Creu Ymdeimlad o Berthyn

    Mae gwirfoddoli yn creu synnwyr o berthyn a chysylltiad â’r gymuned ehangach. Mae’n galluogi unigolion i fod yn rhan o’u hardal leol, ac i ddeall yr anghenion a’r heriau. Mae’r ymdeimlad o berthyn yn gallu arwain at fod yn drigolyn mwy cysylltiedig â'r gymuned.   

  • Dangos Ymrwymiad

    Mae gwirfoddoli yn dangos ymroddiad i wasanaethau cymunedol a thwf personol. Mae’r ymroddiad yma yn aml yn cael ei adnabod a’i gwerthfawrogi gan sefydliadau addysg a chyflogwyr. Mae’n dangos bod gwirfoddolwyr yn barod i fuddsoddi amser ac ymdrech i fod yn rhan o rywbeth mwy na nhw eu hunain, gan dynnu sylw at rinweddau da megis empathi, gwydnwch, a chyfrifoldeb cymdeithasol.   

    Mae gwirfoddoli yn weithgaredd sy’n gwella lles y gymuned a lles y gwirfoddolwyr hefyd. Mae’n cynnig profiad ymarferol, yn helpu i feithrin twf personol ac yn cryfhau cysylltiadau cymdeithasol, sy’n ei wneud yn rhan bwysig o gymdeithas lewyrchus. 

Beth mae gwirfoddolwyr yn ei ddweud

"Ro'n i wrth fy modd yn cael cymryd rhan! Byddai’n wych gallu gwneud rhywbeth fel hyn eto. Efallai y gallen ni annog mwy o bobl i gymryd rhan hefyd, gan fod hwn yn gyfle anhygoel." 

alt
alt

Beth mae mudiadau'n ei ddweud

"Cydweithio i greu newid go iawn ac adeiladu cymunedau cynaliadwy lle mae pawb gan safon fyw addas."