Croeso i’n platfform Volunteens: Rhoi Barn Rhoi Cymorth!
Yma fe welwch chi’r holl gyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf yn eich ardal ac adnoddau i'ch cefnogi chi ar hyd y ffordd!
20/06/2025
Carmarthenshire Council
20/06/2025
Wales Air Ambulance
20/06/2025
Carmarthenshire Council
20/06/2025
Tenovus Cancer Care
20/06/2025
Ty Enfys
20/06/2025
Ysgol Y Strade
Beth yw Volunteens?
Prosiect arloesol a ddechreuwyd yn Hydref 2022 yw Volunteens, fel rhan o Rownd 2 y Grant Gwirfoddoli Strategol. Wedi ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i weithredu gan WCVA a Gwirfoddoli yng Nghymru, crëwyd y prosiect hwn gyda’r nod o ddenu pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol pwrpasol. Blwyddyn o hyd oedd y cynllun gwreiddiol ar gyfer y prosiect, ond mae llwyddiant y prosiect wedi arwain at sicrhau nawdd pellach. Cafodd yr enw “Volunteens” ei ddewis gan y bobl ifanc eu hunain, yn adlewyrchu ethos ifanc y prosiect.
Mae gwirfoddoli nid yn unig yn fudd i’r gymuned, ond hefyd i’r gwirfoddolwyr eu hunain. Mae ein Volunteens wedi nodi bod nifer o fuddion personol i wirfoddoli, gan gynnwys:
"Ro'n i wrth fy modd yn cael cymryd rhan! Byddai’n wych gallu gwneud rhywbeth fel hyn eto. Efallai y gallen ni annog mwy o bobl i gymryd rhan hefyd, gan fod hwn yn gyfle anhygoel."
"Cydweithio i greu newid go iawn ac adeiladu cymunedau cynaliadwy lle mae pawb gan safon fyw addas."