Adnoddau i Addysgwyr

Mae'r cwricwlwm newydd yn canolbwyntio ar wella sut mae pobl ifanc yn dysgu ac yn cysylltu â'r byd o'u cwmpas. Mae'n rhoi pwyslais ar y pedwar diben craidd, gyda'r nod o greu:

  1. Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau.
  2. Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
  3. Dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n gallu chwarae rhan weithredol yng Nghymru a'r byd ehangach.
  4. Unigolion iach, hyderus sy'n byw bywydau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o'r gymuned.
alt

Mae gwaith gwirfoddol wedi'i alinio â'r cwricwlwm hwn drwy gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau hanfodol, gan gynnwys: 

  • Creadigrwydd ac Arloesi:

    • Archwilio: Mae diwrnodau blasu yn rhoi cyflwyniad ymarferol i wirfoddoli.
    • Cynllunio: Mae myfyrwyr yn creu cynlluniau ar gyfer gweithgareddau presennol a gweithgareddau gwirfoddoli yn y dyfodol. 
    • Datrys problemau: Mae cyfranogwyr yn archwilio atebion arloesol i'r heriau maent yn eu hwynebu wrth wirfoddoli. 
  • Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau:

    • Ymchwilio: Mae gwirfoddolwyr yn dysgu i ofyn cwestiynau beirniadol a dod o hyd i dystiolaeth briodol.
    • Gwneud penderfyniadau: Maent yn gwella eu sgiliau gwneud penderfyniadau trwy lywio heriau sy'n dod i'r amlwg. 
    • Datrys problemau: Mae cyfranogwyr yn mynd i'r afael â phroblemau megis gwrthdaro rhwng aelodau'r tîm a defnyddio nifer cyfyngedig o adnoddau. 
  • Cynllunio a Threfnu:

    • Rheoli amser: Mae gwirfoddolwyr yn ymarfer sut i reoli eu hamser yn effeithiol. 
    • Gosod nodau: Maent yn gosod ac yn cyflawni nodau personol a nodau o fewn y grŵp. 
    • Gwirfoddoli annibynnol: Mae cyfranogwyr yn cael eu hannog i ddechrau a chwblhau prosiectau ar eu pen eu hunain. 
  • Effeithiolrwydd Personol:

    • Datblygu sgiliau rhyngbersonol: Mae gwirfoddolwyr yn cwrdd ac yn rhyngweithio gydag unigolion amrywiol, sy’n helpu i ddatblygu eu hymwybyddiaeth ddiwylliannol a chynyddu eu hyder. 
    • Codi ymwybyddiaeth gymunedol: Drwy fynychu sesiynau blasu, mae girfoddolwyr yn dysgu am faterion cymdeithasol yn eu hardal leol. 
    • Dysgu o gamgymeriadau: Mae gwirfoddolwyr yn datblygu gwydnwch drwy ddysgu o brofiadau yn ystod y diwrnodau blasu. 

Adnoddau i Fudiadau

Mae nifer o fanteision i fudiadau sy’n barod i gynnig cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc:

  • Cynnig safbwyntiau newydd: Gall gwirfoddolwyr ifanc gynnig mewnwelediadau a safbwyntiau newydd sy’n helpu mudiadau i newid y ffordd maent yn rhannu gwybodaeth.
  • Rhoi ysbrydoliaeth a magu hyder: Drwy ymgysylltu â gwirfoddolwyr ifanc, gall mudiadau eu hysbrydoli i gydnabod eu potensial ac ystyried safbwyntiau pobl eraill.
  • Ymgysylltu â'r gymuned: Mae cynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn ffordd wych i fudiadau roi’n ôl i'r gymuned a thynnu sylw at y ffaith eu bod yn barod i roi newid ar waith.
alt

Yswiriant

Mae’n hollbwysig fod mudiadau yn gwirio eu dogfennau Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr i sicrhau bod yr yswiriant yn cynnwys gwirfoddolwyr ifanc (yn enwedig gwirfoddolwyr o dan 16 oed). Mae hyn yn sicrhau bod gofynion cyfreithiol a gofynion diogelwch yn cael eu bodloni ac yn darparu amgylchedd diogel i wirfoddolwyr ifanc. 

Adnoddau i Rieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr

Mae adborth gan bobl ifanc sydd wedi gweithio ar ein prosiectau blaenorol yn dangos bod sawl fantais i wirfoddoli:

  • Datblygu sgiliau newydd a chael profiad gwaith gwerthfawr: Mae gwirfoddoli yn darparu profiad ymarferol gwerthfawr ac yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd sy’n gallu cael eu trosglwyddo i sawl maes.
  • Gwneud ffrindiau newydd: Mae gwirfoddoli yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc gwrdd ag unigolion sydd â diddordebau tebyg, gan feithrin cyfeillgarwch newydd.
  • Gwella iechyd corfforol a meddyliol: Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol yn cyfrannu at iechyd a lles da.
  • Rhoi’n ôl i'r gymuned: Mae gwirfoddolwyr yn cael teimlad o foddhad a phwrpas wrth gyfrannu at eu cymuned.
  • Magu hyder: Mae gwirfoddoli’n helpu i gynyddu hunan-barch a hyder drwy gynnig profiadau newydd.
alt

Diogelu

Ein blaenoriaeth bennaf yw sicrhau diogelwch a lles ein gwirfoddolwyr ifanc. Rydym yn cynnal asesiadau risg manwl gyda sefydliadau yn y trydydd sector i adnabod unrhyw risgiau posibl a rhoi mesurau lliniaru yn eu lle. Mae’r rhain yn cynnwys: 

  • Atal cam-fanteisio

    • Rydym yn rhoi mesurau ar waith i amddiffyn gwirfoddolwyr ifanc rhag pob math o gam-fanteisio.
    • Rydym yn cydweithio'n agos gyda mudiadau eraill i sicrhau eu bod yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol i wirfoddolwyr.
  • Datblygu perthynas iach

    • Rydym wedi sefydlu cod ymddygiad clir y mae’n rhaid i wirfoddolwyr a staff ei ddilyn.
    • Rydym yn gwneud yn siŵr bod gwirfoddolwyr ifanc yn gwybod at bwy y gallan nhw droi os oes unrhyw bryderon ganddyn nhw, ac yn sicrhau eu bod yn teimlo'n ddiogel wrth wneud hynny.
    • Er diogelwch ein pobl ifanc, rydym yn sicrhau na fydd gwirfoddolwyr ifanc byth yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gydag oedolion, oni bai bod yr oedolion hyn yn aelodau staff sydd wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Dagelu a Gwahardd (DBS).
  • Rhoi cymorth emosiynol

    • Rydym yn ystyried yr effaith emosiynol y gall gweithgareddau gwirfoddol ei chael ar bobl ifanc ac yn darparu cymorth ar gyfer unrhyw bryderon a allai fod ganddyn nhw.
    • Rydym yn cydnabod y pwysau y gall gwirfoddolwyr ifanc ei wynebu, gan gynnwys straen arholiadau a chyfrifoldebau teuluol, ac yn addasu eu rolau yn ôl yr angen.

Volunteens

Tystebau

Dyma beth mae ein hysgolion, ein mudiadau a’n gwirfoddolwyr yn ei ddweud. 

"Ro'n i wrth fy modd yn cael cymryd rhan! Byddai’n wych gallu gwneud rhywbeth fel hyn eto. Efallai y gallen ni annog mwy o bobl i gymryd rhan hefyd, gan fod hwn yn gyfle anhygoel." 

"Y llynedd, fe groesawon ni wirfoddolwyr ifanc o ysgolion uwchradd a lleoliadau addysg yn y cartref. Roedd eu hegni, eu brwdfrydedd a'u gwaith caled yn hollol ryfeddol. Bydden ni’n annog elusennau a mudiadau eraill yn y trydydd sector i ddefnyddio'r adnodd gwerthfawr yma hefyd.”

Adnoddau

  • Mudiadau gwirfoddoli

    Crëwyd y Pecyn Cymorth hwn i helpu i gefnogi’r trydydd sector i ymgysylltu â gwirfoddolwyr ifanc.

  • Athrawon

    Hwn yw ein adnodd ar gyfer y Sector Addysg. Bydd yn helpu i ddangos pwysigrwydd gwirfoddoli o fewn y cwricwlwm ysgol newydd.