Ynglŷn â’r prosiect
Mae Volunteens yn blatfform ar-lein sydd wedi cael ei greu gyda'r nod o sicrhau bod pobl ifanc wrth wraidd yr holl waith a wnawn. Pwrpas y platfform yw dod â phobl ifanc o Sir Gaerfyrddin at ei gilydd drwy gynnig cyfleoedd gwirfoddoli sy'n ystyrlon a gwerth chweil, sy'n adlewyrchu diddordebau ein gwirfoddolwyr ifanc, ac sydd o fudd i'n cymunedau lleol.