Cwestiynau Cyffredin i Bobl Ifanc

  • Llwybrau Bysiau ac Amserlenni:

    • Dewch i wybod pa lwybrau bysiau sy’n teithio i ardal eich lleoliad gwirfoddoli. 
    • Gwiriwch yr amserlen i weld faint o'r gloch mae'r bysiau yn rhedeg yn yr ardal.
    • Ystyriwch ddefnyddio wefan neu ap cludiant cyhoeddus i ddod o hyd i'r amseroedd a llwybrau bysiau sydd fwyaf cyfleus i chi. 

     Amseroedd Trên: 

    • Ewch ati i ddarganfod a oes gorsaf drenau yn agos at eich lleoliad gwirfoddoli. 
    • Defnyddiwch yr amserlen drenau i weld pa amseroedd sy'n cyd-fynd â’ch oriau yn y lleoliad gwirfoddoli. 
    • Defnyddiwch wefan gwasanaethau trên neu gynllunydd ar-lein i weld manylion byw am drenau sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf, ac i dderbyn gwybodaeth am unrhyw oedi posibl. 

    Gofyn am Lifft: 

    • Beth am ofyn i riant, gwarcheidwad, neu ofalwr am lifft? 
    • Gofynnwch am eu hargaeledd i sicrhau eu bod yn gallu rhoi lifft i chi. 
    • Er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth, trafodwch amseroedd gollwng a chasglu a chadarnhau faint o’r gloch y bydd angen lifft arnoch chi. 
  • Mae gwirfoddoli yn ffordd wych i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol, a chael llawer o hwyl wrth i chi wneud hynny! Dyma pam mae gwirfoddoli mor anhygoel:

    • Gwneud gwahaniaeth: Byddwch yn helpu pobl eraill ac achosion sy'n bwysig i chi, sy'n gallu rhoi teimlad o foddhad mawr. 
    • Dysgu sgiliau newydd: Mae gwirfoddoli yn gyfle gwych i roi cynnig ar bethau newydd, a datblygu sgiliau newydd cyffrous fydd yn ddefnyddiol yn y dyfodol. 
    • Cwrdd â phobl anhygoel: Byddwch yn gwneud ffrindiau newydd sydd â diddordebau tebyg, gan helpu i wneud y profiad yn un pleserus dros ben.
    • Rhoi hwb i'ch CV: Bydd dangos eich gwaith gwirfoddol wrth wneud cais i fynd i’r coleg yn tynnu sylw at y ffaith eich bod yn berson ymroddedig. Gall hyn agor drysau ar gyfer cyfleoedd eraill yn y dyfodol. 
    • Teimlo’n wych: Does dim byd tebyg i'r teimlad o wybod eich bod wedi cael effaith gadarnhaol ac wedi bod yn rhan o rywbeth sy’n fwy na chi’ch hun. 

Cwestiynau Cyffredin i Rieni

  • Ein blaenoriaeth bennaf yw sicrhau diogelwch a lles ein gwirfoddolwyr ifanc. Dyma’r camau rydym yn eu cymryd i ddiogelu eich plentyn: 

    Atal cam-fanteisio:

    • Rydym yn rhoi mesurau ar waith sy’n amddiffyn gwirfoddolwyr ifanc rhag pob math o gam-fanteisio.
    • Rydym yn cydweithio'n agos gyda mudiadau eraill i sicrhau eu bod yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol i wirfoddolwyr.

    Datblygu perthynas iach:

    • Rydym wedi sefydlu cod ymddygiad clir y mae’n rhaid i wirfoddolwyr a staff ei ddilyn.
    • Mae gwirfoddolwyr ifanc yn gwybod at bwy y gallan nhw droi i gael cymorth os oes unrhyw bryderon ganddynt, ac yn cael eu hannog i wneud hynny. 
    • Er diogelwch ein pobl ifanc, rydym yn sicrhau na fydd gwirfoddolwyr ifanc byth yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gydag oedolion, oni bai bod yr oedolion hyn yn aelodau staff sydd wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Dagelu a Gwahardd (DBS). 

    Rhoi cymorth emosiynol: 

    • Rydym yn ystyried yr effaith emosiynol y gall gweithgareddau gwirfoddol ei chael ar bobl ifanc ac yn darparu cymorth ar gyfer unrhyw bryderon sy’n dod i'r amlwg.
    • Rydym yn cydnabod y pwysau y gall gwirfoddolwyr ifanc ei wynebu, gan gynnwys straen arholiadau a chyfrifoldebau teuluol, ac yn addasu eu rolau er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau. 

    Iechyd a Diogelwch: 

    • Rydym yn darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch cynhwysfawr i bob gwirfoddolwr ifanc. 
    • Rydym yn sicrhau bod pob un o’r gweithgareddau gwirfoddol yn cael eu cynnal mewn amgylchedd diogel ac o dan oruchwyliaeth briodol. 
    • Mae gennyn ni nifer o brotocolau diogelwch ar waith, gan gynnwys gweithdrefnau argyfwng a threfniadau chymorth cyntaf. 

    Drwy ganolbwyntio ar y meysydd hyn, rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd diogel, cefnogol a chyfoethog i bobl ifanc gael mwynhau eu profiadau gwirfoddoli. 

  • Does dim cost am y lleoliad gwirfoddoli. Gall eich plentyn gymryd rhan am ddim. Dylid nodi, fodd bynnag, mai chi sy'n gyfrifol am dalu costau teithio i leoliad gwirfoddoli eich plentyn.

  • Mae'r lleoliad gwirfoddoli yn gofyn i bobl ifanc gwblhau o leiaf 15 awr o waith gwirfoddol. Mae modd rhannu hyn yn gyfnodau llai er mwyn sicrhau nad yw’r cyfle i wirfoddoli yn torri ar draws unrhyw ymrwymiadau blaenorol, gan gynnwys addysg eich plentyn. Rydym yn hyblyg ac yn barod i weithio gyda chi a’ch plentyn i drefnu eu gweithgareddau gwirfoddol o amgylch oriau ysgol, neu unrhyw weithgareddau pwysig eraill. Ein nod yw darparu profiad gwerthfawr i bobl ifanc heb amharu ar eu haddysg. 

Cwestiynau Cyffredin i Fudiadau Gwirfoddoli

  • Rydym yn cymryd gofal mawr wrth ddewis ein gwirfoddolwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn unigolion dibynadwy ac ymroddedig. Rydym yn dewis gwirfoddolwyr yn dibynnu ar ba mor angerddol y maen nhw dros wneud gwaith gwirfoddol a’r cyfle i roi’n ôl i'r gymuned. Mae’r broses ddethol yn cynnwys: 

    • Sgrinio trylwyr i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn unigolion ymroddedig a dibynadwy.
    • Gwerthuso cymhelliant yr unigolion, yn ogystal â'u brwdfrydedd a’u hawydd i wneud gwasanaeth cymunedol.
    • Darparu hyfforddiant i baratoi gwirfoddolwyr ar gyfer eu rolau.

    Drwy ganolbwyntio ar yr agweddau hyn, rydym yn sicrhau bod y gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn ddibynadwy ac yn angerddol am gael effaith gadarnhaol ar eu cymuned. 

  • Rydym yn disgwyl i bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn ein cyfleoedd gwirfoddoli ymrwymo o leiaf 15 awr o’u hamser. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cael profiad gwerth chweil a’u bod yn cyfrannu'n ystyrlon at eu cymuned. Er hynny, rydym yn hyblyg iawn ac yn annog cyfranogwyr i rannu'r 15 awr yn gyfnodau llai, gan addasu eu hamserlen i sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i wirfoddoli.

  • Er mwyn sicrhau diogelwch a lles y gwirfoddolwyr, rydym yn gofyn i fudiadau gymryd nifer o gamau i asesu’r cyfleoedd gwirfoddoli y maent yn eu cynnig i bobl ifanc:

    1. Adnabod y peryglon: Yn gyntaf, rhaid nodi unrhyw beryglon posibl sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd gwirfoddol (risgiau corfforol, heriau emosiynol, ffactorau amgylcheddol). 
    2. Asesu’r risgiau: Yn nesaf, ewch ati i werthuso tebygolrwydd gwireddu'r risgiau hynny ac ystyried pa mor ddifrifol fyddai’r effaith. Mae hyn yn cynnwys ystyried ffactorau fel oedran a phrofiad y gwirfoddolwyr, natur y tasgau sydd dan sylw, a lleoliad y gweithgaredd gwirfoddol.
    3. Gweithredu mesurau rheoli: Dylid defnyddio canlyniadau’r broses asesu i roi mesurau rheoli ar waith fydd yn lleihau unrhyw risgiau posibl. Gall hyn gynnwys darparu hyfforddiant neu oruchwyliaeth briodol, sicrhau bod offer ac adnoddau addas ar gael, a sefydlu canllawiau a gweithdrefnau clir. 
    4. Monitro ac adolygu: Bydd angen monitro'r gweithgareddau gwirfoddoli yn barhaus i sicrhau bod y mesurau rheoli a gyflwynwyd yn rhai effeithiol. Cofiwch hefyd y dylid adolygu’r asesiadau risg yn gyson, neu ar ôl digwyddiad penodol, i gyflwyno unrhyw addasiadau neu welliannau angenrheidiol. 
    5. Cyfathrebu a hyfforddiant: Mae'n bwysig cyfleu gwybodaeth i wirfoddolwyr ynglŷn ag unrhyw risgiau a allai godi yn ystod eu lleoliad, a threfnu'r hyfforddiant perthnasol i’w grymuso i adnabod ac ymateb i’r risgiau hyn. 

    Drwy gynnal asesiad trylwyr a manwl a rheoli unrhyw risgiau posibl, mae modd creu amgylchedd diogel a chefnogol lle mae pobl ifanc yn teimlo'n hyderus i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli a bod yn gyfrifol wrth wneud hynny.

  • Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le yn ystod un o’r cyfleoedd gwirfoddoli, bydd angen sicrhau fod y gweithdrefnau canlynol ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa ac ymateb iddi yn effeithiol: 

    1. Ymateb yn syth: Mae gennyn ni rwydwaith o unigolion a thimau dynodedig sydd wedi'u hyfforddi i ymdrin ag argyfyngau neu ddigwyddiadau yn brydlon. Byddant yn asesu'r sefyllfa a chynnig cymorth ar unwaith - neu ymyrryd os oes angen. 
    2. Adrodd yn ôl: Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i roi gwybod am unrhyw broblemau neu bryderon ar unwaith drwy siarad â’r person cyswllt neu'r goruchwyliwr dynodedig. Mae hyn yn sicrhau y gallwch chi ymateb i'r sefyllfa yn gyflym ac yn briodol.
    3. Ymchwilio: Drwy gynnal ymchwiliad trylwyr, gallwch chi ddeall beth yn union aeth o'i le a pham. Gallwch chi wneud hyn drwy gasglu gwybodaeth gan dystion, adolygu gweithdrefnau presennol, ac asesu unrhyw ffactorau eraill.
    4. Cefnogaeth: Bydd cymorth yn cael ei roi i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio, gan gynnwys gwirfoddolwyr, eu teuluoedd, ac unrhyw randdeiliaid eraill sy'n gysylltiedig. Gall hyn gynnwys cymorth emosiynol, meddygol neu ymarferol. 
    5. Dysgu a gwella: Yn dilyn y digwyddiad, mae’n bwysig adolygu polisïau, gweithdrefnau ac asesiadau risg i osgoi unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Dylid defnyddio’r gwersi sy'n cael eu dysgu i gryfhau mesurau diogelwch a gwella'r profiad gwirfoddoli yn gyffredinol.

    Wrth roi protocolau clir yn eu lle a defnyddio dull rhagweithiol o ymdrin â digwyddiadau, rydych yn ymdrechu i sicrhau diogelwch a lles y gwirfoddolwyr ifanc ac yn cynnig amgylchedd cefnogol fydd yn annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol.

Cwestiynau Cyffredin i Addysgwyr

  • Mae sicrhau diogelwch a lles gwirfoddolwyr ifanc yn hollbwysig i ni. Dyma’r prif fesurau rydym yn eu rhoi ar waith:

    Atal cam-fanteisio:

    • Gweithredu mesurau llym i amddiffyn gwirfoddolwyr ifanc rhag unrhyw fath o gam-fanteisio.
    • Cydweithio’n agos gyda mudiadau eraill i sicrhau amgylchedd diogel a chefnogol.

    Datblygu perthynas iach:

    • Sefydlu cod ymddygiad clir y mae’n rhaid i wirfoddolwyr a staff ei ddilyn.
    • Sicrhau bod gwirfoddolwyr ifanc yn gwybod at bwy y gallan nhw droi i gael cymorth os oes unrhyw bryderon ganddyn nhw.
    • Er diogelwch ein pobl ifanc, rydym yn sicrhau na fydd gwirfoddolwyr ifanc byth yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain gydag oedolion, oni bai bod yr oedolion hyn yn aelodau staff sydd wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Dagelu a Gwahardd (DBS).

    Rhoi cymorth emosiynol:

    • Ystyried yr effaith emosiynol y gall gweithgareddau gwirfoddol ei chael ar bobl ifanc a darparu unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt.
    • Cydnabod y pwysau y gall gwirfoddolwyr ifanc ei wynebu, gan gynnwys straen arholiadau a chyfrifoldebau teuluol, a gwneud addasiadau yn ôl yr angen.

    Iechyd a Diogelwch:

    • Darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch cynhwysfawr i bob gwirfoddolwr ifanc.
    • Sicrhau bod pob un o’r gweithgareddau gwirfoddol yn cael eu cynnal mewn amgylchedd diogel ac o dan oruchwyliaeth briodol.
    • Rhoi protocolau diogelwch ar waith, gan gynnwys gweithdrefnau argyfwng a threfniadau chymorth cyntaf.

    Sgrinio a hyfforddi:

    • Gwirio cefndir yr holl staff a gwirfoddolwyr fydd yn gweithio gyda phobl ifanc.
    • Darparu hyfforddiant i sicrhau bod cyfranogwyr yn deall polisïau a gweithdrefnau diogelu.

    Goruchwylio a monitro:

    • Sicrhau bod goruchwyliaeth ddigonol ar gael yn ystod y gweithgareddau gwirfoddol.
    • Monitro ac adolygu gweithgareddau yn rheolaidd i sicrhau bod yr amgylchedd gwirfoddoli yn ddiogel.

    Cyfathrebu: 

    • Sicrhau cyfathrebu agored rhwng gwirfoddolwyr, rhieni, gwarcheidwaid a staff.
    • Darparu gwybodaeth glir am bolisïau diogelu, ac egluro sut mae unigolion yn gallu rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.

    Drwy weithredu’r mesurau diogelu hyn, rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd diogel, cefnogol a chyfoethog i bobl ifanc gael mwynhau eu profiadau gwirfoddoli.

  • Bwriad gwirfoddoli yw mynd law yn llaw gydag addysg ac ymrwymiadau ysgol person ifanc, nid i darfu ar draws. Dyma sut rydym yn sicrhau fod gwirfoddoli yn cael effaith gadarnhaol heb ymyrryd ar amser ysgol:

    Amserlenni hyblyg:

    • Mae cyfleoedd gwirfoddoli wedi’u strwythuro i fod yn hyblyg. Mae’r 15 awr orfodol yn gallu cael eu gwasgaru dros gyfnod o amser sy’n addas i’r gwirfoddolwr ifanc.
    • Gall yr oriau cael eu trefnu o gwmpas ymrwymiadau ysgol, sy’n sicrhau na fydd y gweithgareddau gwirfoddoli yn torri ar draws gwersi, gwaith cartref neu arholiadau.

    Dysgu uwch:

    • Mae gwirfoddoli yn darparu cyfleoedd ymarferol go iawn sy’n gallu gwella addysg person ifanc.
    • Mae’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis gwaith tîm, arweinyddiaeth, a datrys problemau sy’n gallu bod o fudd mewn amgylchiadau addysgol.

    Amgylchedd cefnogol:

    • Mae cyrff elusennol yn deall y pwysau mae pobl ifanc yn ei wynebu ac maent yn ymrwymo i’w gynorthwyo. Os oes gan wirfoddolwr arholiadau neu gyfrifoldebau ysgol sylweddol, mae addasiadau yn gallu cael eu gwneud i’w hamserlen wirfoddoli.
    • Mae cymorth emosiynol ar gael i gefnogi gwirfoddolwyr a’u helpu i gydbwyso eu hymrwymiadau yn effeithiol.

    Gwerth addysgol:

    • Mae gwirfoddoli yn gallu atgyfnerthu cysyniadau academaidd drwy dasgau ymarferol, gan greu dealltwriaeth ddyfnach o’r pynciau sy'n cael eu hastudio yn yr ysgol.
    • Mae hefyd yn rhoi hwb i CV unigolyn, sy’n gallu bod o fantais wrth wneud ceisiadau ar gyfer coleg a chyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

    Wrth sicrhau hyblygrwydd a darparu cefnogaeth, mae gwirfoddoli yn gallu cael ei strwythuro i fod yn ychwanegiad gwerthfawr i daith addysgol person ifanc, yn cynyddu ei addysg heb dorri ar draws ei amser ysgol.

  • Dyma sut mae gwirfoddoli yn gallu bod yn rhan o Wobr Dug Caeredin a Bagloriaeth Cymru:

    Gwobr Dug Caeredin:

    • Yr elfen gwirfoddoli: Mae Gwobr Dug Caeredin yn cynnwys adran gwirfoddoli sy’n gofyn i gyfranogwyr roi peth o’u hamser i helpu pobl eraill. Gan fod rhaid i’n gwirfoddolwyr ifanc ymgymryd ag o leiaf 15 awr o waith fel rhan o’u lleoliadau gwirfoddoli, bydd hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion gwobrau efydd, arian ac aur Dug Caeredin hefyd.
    • Datblygu sgiliau: Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau pwysig megis arweinyddiaeth, gwaith tîm a chyfathrebu. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau gwerthfawr iawn wrth gwblhau gwobr Dug Caeredin.

    Bagloriaeth Cymru:

    • Her y Gymuned: Fel rhan o gymhwyster Bagloriaeth Cymru, mae Her y Gymuned yn gofyn i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o fudd i'w cymunedau lleol. Gall ein cyfleoedd gwirfoddoli helpu pobl ifanc i gyflawni hyn drwy roi cyfle iddynt wneud gwasanaeth cymunedol ystrylon.
    • Y Prosiect Unigol: Gall profiadau gwirfoddoli ysbrydoli myfyrwyr a rhoi’r deunyddiau sydd eu hangen arnynt i gyflwyno’r Prosiect Unigol fel rhan o’u cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae hyn yn annog pobl ifanc i fyfyrio ar eu profiadau gwirfoddoli a'r effaith maen nhw wedi'i chael.

    Wrth fynychu ein lleoliadau gwirfoddoli, nid yn unig y gall pobl ifanc gyfrannu at eu cymuned leol, ond gallant hefyd gyflawni meini prawf rhaglenni nodedig, gan dderbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith a chyfoethogi eu datblygiad personol. 

  • Ydyn. Dyma sut rydym yn sicrhau cynwysoldeb ac yn cefnogi cyfranogwyr sy'n derbyn addysg yn y cartref: 

    Amserlenni hyblyg:

    • Yn aml iawn, mae gan bobl ifanc sy'n derbyn addysg yn y cartref amserlenni mwy hyblyg, sy’n golygu eu bod yn gallu cyflawni eu horiau gwirfoddoli ar amser sy'n gweithio orau iddyn nhw.
    • Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu’ch gweithgareddau gwirfoddoli o gwmpas eich amserlen ddysgu ac unrhyw ymrwymiadau eraill.

    Gwerth addysgol:

    • Mae gwirfoddoli yn darparu cyfleoedd ymarferol go iawn sy’n gallu gefnogi gweithrediad y cwricwlwm yn y cartref.
    • Mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n derbyn addysg yn y cartref ddatblygu sgiliau gwerthfawr a chael profiadau sy’n gallu gwella eu taith addysgol.

    Cymdeithasu ag eraill:

    • Mae gwirfoddoli'n caniatáu i bobl ifanc sy'n derbyn addysg yn y cartref ymgysylltu ag aelodau eraill o'r gymuned, gan gynnig cyfleoedd gwerthfawr i gymdeithasu gyda phobl eraill a gweithio fel tîm.

    Cydnabyddiaeth a Rhaglenni:

    • Yn yr un modd â'u cyfoedion sy'n mynychu’r ysgol, mae pobl ifanc sy'n derbyn addysg yn y cartref yn gallu defnyddio eu profiadau gwirfoddoli i fodloni gofynion cymwysterau a rhaglenni megis Gwobr Dug Caeredin a Bagloriaeth Cymru.

    Wrth gynnig cyfleoedd gwirfoddoli hyblyg a chynhwysol, rydym yn sicrhau bod pobl ifanc sy'n derbyn addysg yn y cartref yn gallu cymryd rhan ac elwa o'r profiadau cyfoethog y mae gwirfoddoli'n yn gallu eu cynnig.