Cwestiynau Cyffredin i Addysgwyr

  • Mae sicrhau diogelwch a lles gwirfoddolwyr ifanc yn hollbwysig i ni. Dyma’r prif fesurau rydym yn eu rhoi ar waith:

    Atal cam-fanteisio:

    • Gweithredu mesurau llym i amddiffyn gwirfoddolwyr ifanc rhag unrhyw fath o gam-fanteisio.
    • Cydweithio’n agos gyda mudiadau eraill i sicrhau amgylchedd diogel a chefnogol.

    Datblygu perthynas iach:

    • Sefydlu cod ymddygiad clir y mae’n rhaid i wirfoddolwyr a staff ei ddilyn.
    • Sicrhau bod gwirfoddolwyr ifanc yn gwybod at bwy y gallan nhw droi i gael cymorth os oes unrhyw bryderon ganddyn nhw.
    • Er diogelwch ein pobl ifanc, rydym yn sicrhau na fydd gwirfoddolwyr ifanc byth yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain gydag oedolion, oni bai bod yr oedolion hyn yn aelodau staff sydd wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Dagelu a Gwahardd (DBS).

    Rhoi cymorth emosiynol:

    • Ystyried yr effaith emosiynol y gall gweithgareddau gwirfoddol ei chael ar bobl ifanc a darparu unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt.
    • Cydnabod y pwysau y gall gwirfoddolwyr ifanc ei wynebu, gan gynnwys straen arholiadau a chyfrifoldebau teuluol, a gwneud addasiadau yn ôl yr angen.

    Iechyd a Diogelwch:

    • Darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch cynhwysfawr i bob gwirfoddolwr ifanc.
    • Sicrhau bod pob un o’r gweithgareddau gwirfoddol yn cael eu cynnal mewn amgylchedd diogel ac o dan oruchwyliaeth briodol.
    • Rhoi protocolau diogelwch ar waith, gan gynnwys gweithdrefnau argyfwng a threfniadau chymorth cyntaf.

    Sgrinio a hyfforddi:

    • Gwirio cefndir yr holl staff a gwirfoddolwyr fydd yn gweithio gyda phobl ifanc.
    • Darparu hyfforddiant i sicrhau bod cyfranogwyr yn deall polisïau a gweithdrefnau diogelu.

    Goruchwylio a monitro:

    • Sicrhau bod goruchwyliaeth ddigonol ar gael yn ystod y gweithgareddau gwirfoddol.
    • Monitro ac adolygu gweithgareddau yn rheolaidd i sicrhau bod yr amgylchedd gwirfoddoli yn ddiogel.

    Cyfathrebu: 

    • Sicrhau cyfathrebu agored rhwng gwirfoddolwyr, rhieni, gwarcheidwaid a staff.
    • Darparu gwybodaeth glir am bolisïau diogelu, ac egluro sut mae unigolion yn gallu rhoi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw.

    Drwy weithredu’r mesurau diogelu hyn, rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd diogel, cefnogol a chyfoethog i bobl ifanc gael mwynhau eu profiadau gwirfoddoli.

  • Bwriad gwirfoddoli yw mynd law yn llaw gydag addysg ac ymrwymiadau ysgol person ifanc, nid i darfu ar draws. Dyma sut rydym yn sicrhau fod gwirfoddoli yn cael effaith gadarnhaol heb ymyrryd ar amser ysgol:

    Amserlenni hyblyg:

    • Mae cyfleoedd gwirfoddoli wedi’u strwythuro i fod yn hyblyg. Mae’r 15 awr orfodol yn gallu cael eu gwasgaru dros gyfnod o amser sy’n addas i’r gwirfoddolwr ifanc.
    • Gall yr oriau cael eu trefnu o gwmpas ymrwymiadau ysgol, sy’n sicrhau na fydd y gweithgareddau gwirfoddoli yn torri ar draws gwersi, gwaith cartref neu arholiadau.

    Dysgu uwch:

    • Mae gwirfoddoli yn darparu cyfleoedd ymarferol go iawn sy’n gallu gwella addysg person ifanc.
    • Mae’n cynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau megis gwaith tîm, arweinyddiaeth, a datrys problemau sy’n gallu bod o fudd mewn amgylchiadau addysgol.

    Amgylchedd cefnogol:

    • Mae cyrff elusennol yn deall y pwysau mae pobl ifanc yn ei wynebu ac maent yn ymrwymo i’w gynorthwyo. Os oes gan wirfoddolwr arholiadau neu gyfrifoldebau ysgol sylweddol, mae addasiadau yn gallu cael eu gwneud i’w hamserlen wirfoddoli.
    • Mae cymorth emosiynol ar gael i gefnogi gwirfoddolwyr a’u helpu i gydbwyso eu hymrwymiadau yn effeithiol.

    Gwerth addysgol:

    • Mae gwirfoddoli yn gallu atgyfnerthu cysyniadau academaidd drwy dasgau ymarferol, gan greu dealltwriaeth ddyfnach o’r pynciau sy'n cael eu hastudio yn yr ysgol.
    • Mae hefyd yn rhoi hwb i CV unigolyn, sy’n gallu bod o fantais wrth wneud ceisiadau ar gyfer coleg a chyfleoedd gwaith yn y dyfodol.

    Wrth sicrhau hyblygrwydd a darparu cefnogaeth, mae gwirfoddoli yn gallu cael ei strwythuro i fod yn ychwanegiad gwerthfawr i daith addysgol person ifanc, yn cynyddu ei addysg heb dorri ar draws ei amser ysgol.

  • Dyma sut mae gwirfoddoli yn gallu bod yn rhan o Wobr Dug Caeredin a Bagloriaeth Cymru:

    Gwobr Dug Caeredin:

    • Yr elfen gwirfoddoli: Mae Gwobr Dug Caeredin yn cynnwys adran gwirfoddoli sy’n gofyn i gyfranogwyr roi peth o’u hamser i helpu pobl eraill. Gan fod rhaid i’n gwirfoddolwyr ifanc ymgymryd ag o leiaf 15 awr o waith fel rhan o’u lleoliadau gwirfoddoli, bydd hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion gwobrau efydd, arian ac aur Dug Caeredin hefyd.
    • Datblygu sgiliau: Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau pwysig megis arweinyddiaeth, gwaith tîm a chyfathrebu. Mae’r rhain i gyd yn sgiliau gwerthfawr iawn wrth gwblhau gwobr Dug Caeredin.

    Bagloriaeth Cymru:

    • Her y Gymuned: Fel rhan o gymhwyster Bagloriaeth Cymru, mae Her y Gymuned yn gofyn i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o fudd i'w cymunedau lleol. Gall ein cyfleoedd gwirfoddoli helpu pobl ifanc i gyflawni hyn drwy roi cyfle iddynt wneud gwasanaeth cymunedol ystrylon.
    • Y Prosiect Unigol: Gall profiadau gwirfoddoli ysbrydoli myfyrwyr a rhoi’r deunyddiau sydd eu hangen arnynt i gyflwyno’r Prosiect Unigol fel rhan o’u cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae hyn yn annog pobl ifanc i fyfyrio ar eu profiadau gwirfoddoli a'r effaith maen nhw wedi'i chael.

    Wrth fynychu ein lleoliadau gwirfoddoli, nid yn unig y gall pobl ifanc gyfrannu at eu cymuned leol, ond gallant hefyd gyflawni meini prawf rhaglenni nodedig, gan dderbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith a chyfoethogi eu datblygiad personol. 

  • Ydyn. Dyma sut rydym yn sicrhau cynwysoldeb ac yn cefnogi cyfranogwyr sy'n derbyn addysg yn y cartref: 

    Amserlenni hyblyg:

    • Yn aml iawn, mae gan bobl ifanc sy'n derbyn addysg yn y cartref amserlenni mwy hyblyg, sy’n golygu eu bod yn gallu cyflawni eu horiau gwirfoddoli ar amser sy'n gweithio orau iddyn nhw.
    • Gallwn ni weithio gyda chi i drefnu’ch gweithgareddau gwirfoddoli o gwmpas eich amserlen ddysgu ac unrhyw ymrwymiadau eraill.

    Gwerth addysgol:

    • Mae gwirfoddoli yn darparu cyfleoedd ymarferol go iawn sy’n gallu gefnogi gweithrediad y cwricwlwm yn y cartref.
    • Mae'n rhoi cyfle i fyfyrwyr sy’n derbyn addysg yn y cartref ddatblygu sgiliau gwerthfawr a chael profiadau sy’n gallu gwella eu taith addysgol.

    Cymdeithasu ag eraill:

    • Mae gwirfoddoli'n caniatáu i bobl ifanc sy'n derbyn addysg yn y cartref ymgysylltu ag aelodau eraill o'r gymuned, gan gynnig cyfleoedd gwerthfawr i gymdeithasu gyda phobl eraill a gweithio fel tîm.

    Cydnabyddiaeth a Rhaglenni:

    • Yn yr un modd â'u cyfoedion sy'n mynychu’r ysgol, mae pobl ifanc sy'n derbyn addysg yn y cartref yn gallu defnyddio eu profiadau gwirfoddoli i fodloni gofynion cymwysterau a rhaglenni megis Gwobr Dug Caeredin a Bagloriaeth Cymru.

    Wrth gynnig cyfleoedd gwirfoddoli hyblyg a chynhwysol, rydym yn sicrhau bod pobl ifanc sy'n derbyn addysg yn y cartref yn gallu cymryd rhan ac elwa o'r profiadau cyfoethog y mae gwirfoddoli'n yn gallu eu cynnig.