
Cwestiynau Cyffredin i Bobl Ifanc
-
Sut ydw i'n cyrraedd y lleoliad gwirfoddoli?
Llwybrau Bysiau ac Amserlenni:
- Ewch ati i weld pa lwybrau bysiau sy’n teithio i ardal eich lleoliad gwirfoddoli.
- Gwiriwch yr amserlen i weld faint o'r gloch mae'r bysiau yn rhedeg yn yr ardal.
- Ystyriwch ddefnyddio wefan neu ap cludiant cyhoeddus i ddod o hyd i'r amseroedd a llwybrau bysiau sydd fwyaf cyfleus i chi.
Amseroedd Trên:
- Byddai'n werth gwirio os oes gorsaf drenau yn agos at eich lleoliad gwirfoddoli.
- Defnyddiwch yr amserlen drenau i weld pa amseroedd sy'n cyd-fynd â’ch oriau yn y lleoliad gwirfoddoli.
- Defnyddiwch wefan gwasanaethau trên neu gynllunydd ar-lein i weld manylion byw am drenau sy’n cyrraedd a gadael yr orsaf, ac i dderbyn gwybodaeth am unrhyw oedi posibl.
Gofyn am Lifft:
- Beth am ofyn i riant, gwarcheidwad, neu ofalwr am lifft?
- Gofynnwch am eu hargaeledd i sicrhau eu bod yn gallu rhoi lifft i chi.
- Er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth, trafodwch amseroedd gollwng a chasglu a chadarnhau faint o’r gloch y bydd angen lifft arnoch chi.
-
Beth yw gwirfoddoli?
Mae gwirfoddoli yn ffordd wych i gael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol, a chael llawer o hwyl wrth i chi wneud hynny! Dyma pam mae gwirfoddoli mor anhygoel:
- Gwneud gwahaniaeth: Byddwch yn helpu pobl eraill ac achosion sy'n bwysig i chi, sy'n gallu rhoi teimlad o foddhad mawr.
- Dysgu sgiliau newydd: Mae gwirfoddoli yn gyfle gwych i roi cynnig ar bethau newydd, a datblygu sgiliau newydd cyffrous fydd yn ddefnyddiol yn y dyfodol.
- Cwrdd â phobl anhygoel: Byddwch yn gwneud ffrindiau newydd sydd â diddordebau tebyg, gan helpu i wneud y profiad yn un pleserus dros ben.
- Rhoi hwb i'ch CV: Bydd dangos eich gwaith gwirfoddol wrth wneud cais i fynd i’r coleg yn tynnu sylw at y ffaith eich bod yn berson ymroddedig. Gall hyn agor drysau ar gyfer cyfleoedd eraill yn y dyfodol.
- Teimlo’n wych: Does dim byd tebyg i'r teimlad o wybod eich bod wedi cael effaith gadarnhaol ac wedi bod yn rhan o rywbeth sy’n fwy na chi’ch hun.