
Cwestiynau Cyffredin i Fudiadau Gwirfoddoli
-
Sut ydw i'n gwybod bod y gwirfoddolwyr a ddewiswyd yn ddibynadwy?
Rydym yn cymryd gofal mawr wrth ddewis ein gwirfoddolwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn unigolion dibynadwy ac ymroddedig. Rydym yn dewis gwirfoddolwyr yn dibynnu ar ba mor angerddol y maen nhw dros wneud gwaith gwirfoddol a’r cyfle i roi’n ôl i'r gymuned. Mae’r broses ddethol yn cynnwys:
- Sgrinio trylwyr i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn unigolion ymroddedig a dibynadwy.
- Gwerthuso cymhelliant yr unigolion, yn ogystal â'u brwdfrydedd a’u hawydd i wneud gwasanaeth cymunedol.
- Darparu hyfforddiant i baratoi gwirfoddolwyr ar gyfer eu rolau.
Drwy ganolbwyntio ar yr agweddau hyn, rydym yn sicrhau bod y gwirfoddolwyr sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn ddibynadwy ac yn angerddol am gael effaith gadarnhaol ar eu cymuned.
-
Faint o amser bydd rhaid i fi ei dreulio'n gwirfoddoli?
Rydym yn disgwyl i bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn ein cyfleoedd gwirfoddoli ymrwymo o leiaf 15 awr o’u hamser. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn cael profiad gwerth chweil a’u bod yn cyfrannu'n ystyrlon at eu cymuned. Er hynny, rydym yn hyblyg iawn ac yn annog cyfranogwyr i rannu'r 15 awr yn gyfnodau llai, gan addasu eu hamserlen i sicrhau eu bod yn manteisio i’r eithaf ar y cyfle i wirfoddoli.
-
Sut ydw i’n cynnal asesiad risg o bobl ifanc sy’n gweithio i'r mudiad?
Er mwyn sicrhau diogelwch a lles y gwirfoddolwyr, rydym yn gofyn i fudiadau gymryd nifer o gamau i asesu’r cyfleoedd gwirfoddoli y maent yn eu cynnig i bobl ifanc:
- Adnabod y peryglon: Yn gyntaf, rhaid nodi unrhyw beryglon posibl sy'n gysylltiedig â'r gweithgaredd gwirfoddol (risgiau corfforol, heriau emosiynol, ffactorau amgylcheddol).
- Asesu’r risgiau: Yn nesaf, ewch ati i werthuso tebygolrwydd gwireddu'r risgiau hynny ac ystyried pa mor ddifrifol fyddai’r effaith. Mae hyn yn cynnwys ystyried ffactorau fel oedran a phrofiad y gwirfoddolwyr, natur y tasgau sydd dan sylw, a lleoliad y gweithgaredd gwirfoddol.
- Gweithredu mesurau rheoli: Dylid defnyddio canlyniadau’r broses asesu i roi mesurau rheoli ar waith fydd yn lleihau unrhyw risgiau posibl. Gall hyn gynnwys darparu hyfforddiant neu oruchwyliaeth briodol, sicrhau bod offer ac adnoddau addas ar gael, a sefydlu canllawiau a gweithdrefnau clir.
- Monitro ac adolygu: Bydd angen monitro'r gweithgareddau gwirfoddoli yn barhaus i sicrhau bod y mesurau rheoli a gyflwynwyd yn rhai effeithiol. Cofiwch hefyd y dylid adolygu’r asesiadau risg yn gyson, neu ar ôl digwyddiad penodol, i gyflwyno unrhyw addasiadau neu welliannau angenrheidiol.
- Cyfathrebu a hyfforddiant: Mae'n bwysig cyfleu gwybodaeth i wirfoddolwyr ynglŷn ag unrhyw risgiau a allai godi yn ystod eu lleoliad, a threfnu'r hyfforddiant perthnasol i’w grymuso i adnabod ac ymateb i’r risgiau hyn.
Drwy gynnal asesiad trylwyr a manwl a rheoli unrhyw risgiau posibl, mae modd creu amgylchedd diogel a chefnogol lle mae pobl ifanc yn teimlo'n hyderus i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli a bod yn gyfrifol wrth wneud hynny.
-
Beth os mae rhywbeth yn mynd o'i le?
Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le yn ystod un o’r cyfleoedd gwirfoddoli, bydd angen sicrhau fod y gweithdrefnau canlynol ar waith er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa ac ymateb iddi yn effeithiol:
- Ymateb yn syth: Mae gennyn ni rwydwaith o unigolion a thimau dynodedig sydd wedi'u hyfforddi i ymdrin ag argyfyngau neu ddigwyddiadau yn brydlon. Byddant yn asesu'r sefyllfa a chynnig cymorth ar unwaith - neu ymyrryd os oes angen.
- Adrodd yn ôl: Mae gwirfoddolwyr yn cael eu hannog i roi gwybod am unrhyw broblemau neu bryderon ar unwaith drwy siarad â’r person cyswllt neu'r goruchwyliwr dynodedig. Mae hyn yn sicrhau y gallwch chi ymateb i'r sefyllfa yn gyflym ac yn briodol.
- Ymchwilio: Drwy gynnal ymchwiliad trylwyr, gallwch chi ddeall beth yn union aeth o'i le a pham. Gallwch chi wneud hyn drwy gasglu gwybodaeth gan dystion, adolygu gweithdrefnau presennol, ac asesu unrhyw ffactorau eraill.
- Cefnogaeth: Bydd cymorth yn cael ei roi i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio, gan gynnwys gwirfoddolwyr, eu teuluoedd, ac unrhyw randdeiliaid eraill sy'n gysylltiedig. Gall hyn gynnwys cymorth emosiynol, meddygol neu ymarferol.
- Dysgu a gwella: Yn dilyn y digwyddiad, mae’n bwysig adolygu polisïau, gweithdrefnau ac asesiadau risg i osgoi unrhyw ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Dylid defnyddio’r gwersi sy'n cael eu dysgu i gryfhau mesurau diogelwch a gwella'r profiad gwirfoddoli yn gyffredinol.
Wrth roi protocolau clir yn eu lle a defnyddio dull rhagweithiol o ymdrin â digwyddiadau, rydych yn ymdrechu i sicrhau diogelwch a lles y gwirfoddolwyr ifanc ac yn cynnig amgylchedd cefnogol fydd yn annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddol.