
Cwestiynau Cyffredin i Rieni
-
Sut bydd fy mhlentyn yn cael ei ddiogelu?
Ein blaenoriaeth bennaf yw sicrhau diogelwch a lles ein gwirfoddolwyr ifanc. Dyma’r camau rydym yn eu cymryd i ddiogelu eich plentyn:
Atal cam-fanteisio:
- Rydym yn rhoi mesurau ar waith sy’n amddiffyn gwirfoddolwyr ifanc rhag pob math o gam-fanteisio.
- Rydym yn cydweithio'n agos gyda mudiadau eraill i sicrhau eu bod yn cynnig amgylchedd diogel a chefnogol i wirfoddolwyr.
Datblygu perthynas iach:
- Rydym wedi sefydlu cod ymddygiad clir y mae’n rhaid i wirfoddolwyr a staff ei ddilyn.
- Mae gwirfoddolwyr ifanc yn gwybod at bwy y gallan nhw droi i gael cymorth os oes unrhyw bryderon ganddynt, ac yn cael eu hannog i wneud hynny.
- Er diogelwch ein pobl ifanc, rydym yn sicrhau na fydd gwirfoddolwyr ifanc byth yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain gydag oedolion, oni bai bod yr oedolion hyn yn aelodau staff sydd wedi cael gwiriad gan y Gwasanaeth Dagelu a Gwahardd (DBS).
Rhoi cymorth emosiynol:
- Rydym yn ystyried yr effaith emosiynol y gall gweithgareddau gwirfoddol ei chael ar bobl ifanc ac yn darparu cymorth ar gyfer unrhyw bryderon sy’n dod i'r amlwg.
- Rydym yn cydnabod y pwysau y gall gwirfoddolwyr ifanc ei wynebu, gan gynnwys straen arholiadau a chyfrifoldebau teuluol, ac yn addasu eu rolau er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau.
Iechyd a Diogelwch:
- Rydym yn darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch cynhwysfawr i bob gwirfoddolwr ifanc.
- Rydym yn sicrhau bod pob un o’r gweithgareddau gwirfoddol yn cael eu cynnal mewn amgylchedd diogel ac o dan oruchwyliaeth briodol.
- Mae gennyn ni nifer o brotocolau diogelwch ar waith, gan gynnwys gweithdrefnau argyfwng a threfniadau chymorth cyntaf.
Drwy ganolbwyntio ar y meysydd hyn, rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd diogel, cefnogol a chyfoethog i bobl ifanc gael mwynhau eu profiadau gwirfoddoli.
-
Faint bydd hyn yn ei gostio?
Does dim cost am y lleoliad gwirfoddoli. Gall eich plentyn gymryd rhan am ddim. Dylid nodi, fodd bynnag, mai chi sy'n gyfrifol am dalu costau teithio i leoliad gwirfoddoli eich plentyn.
-
Sut bydd hyn yn effeithio ar addysg fy mhlentyn?
Mae'r lleoliad gwirfoddoli yn gofyn i bobl ifanc gwblhau o leiaf 15 awr o waith gwirfoddol. Mae modd rhannu hyn yn gyfnodau llai er mwyn sicrhau nad yw’r cyfle i wirfoddoli yn torri ar draws unrhyw ymrwymiadau blaenorol, gan gynnwys addysg eich plentyn. Rydym yn hyblyg ac yn barod i weithio gyda chi a’ch plentyn i drefnu eu gweithgareddau gwirfoddol o amgylch oriau ysgol, neu unrhyw weithgareddau pwysig eraill. Ein nod yw darparu profiad gwerthfawr i bobl ifanc heb amharu ar eu haddysg.