Aelod o’r tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid - Llyfrgell Offer

  • Foothold Cymru

  • : 08/07/2024

  • Llanelli

Fel aelod gwirfoddol o dîm Gwasanaeth Cwsmeriaid y Llyfrgell Offer, byddwch yn gyfrifol am sicrhau profiad hwylus a dymunol i’n cwsmeriaid.

Rôl: Aelod o’r tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid  
Lleoliad: Llyfrgell Offer
Dyddiad dechrau: 26ain Gorffennaf 2024 
Amser:
9:30yb – 12:30yp  

Hoffwn i wirfoddoli 4 4 lle ar ôl
thumbnail

Cyfrifoldebau

Bydd eich dyletswyddau’n cynnwys:

  • Cadw cofnod o lefelau stoc a diweddaru’r cofnodion hyn. 
  • Gwirio lefelau stoc, ac archebu stoc newydd yn ôl yr angen. 
  • Derbyn nwyddau sy’n cael eu danfon i'r llyfrgell a delio gyda gwerthwyr. 
  • Cydymffurfio gyda gweithdrefnau rheoli stoc sydd wedi cael eu sefydlu. 
  • Ymateb i gwynion ac ymholiadau gan gwsmeriaid. 
  • Rhoi gwybod i'r rheolwyr am unrhyw anghysondebau o ran lefelau stoc. 
  • Dadansoddi tueddiadau mewn rhestrau stoc a defnyddio hyn wrth archebu nwyddau yn y dyfodol. 
  • Glanhau a gwneud profion PAT ar ôl i’r offer gael ei ddychwelyd.  

Beth fydd ei angen arnoch

  • Agwedd “gallu gwneud” a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
  • Parodrwydd i fynd yr ail filltir i sicrhau bodlonrwydd ein cwsmeriaid. 
  • Cyfrifoldeb a dibynadwyedd. 
  • Mwynhau gweithio mewn amgylchedd cyflym ac amrywiol. 
  • Bod yn chwaraewr tîm da. 
  • Byddai profiad blaenorol o weithio gyda chwsmeriaid yn fantais, ond nid yw’n hanfodol. Y peth pwysicaf yw cael yr agwedd gywir. 

Sgiliau y byddwch yn eu datblygu

Bydd gwirfoddoli fel aelod o’n tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau canlynol: 

  • Hyfedredd wrth ddefnyddio meddalwedd trefnu data: Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer fel Microsoft Excel i reoli stoc. 
  • Sgiliau cyfathrebu llafar ardderchog: Byddwch yn datblygu’ch gallu i gyfathrebu'n effeithiol gyda chwsmeriaid a gwerthwyr. 
  • Talu sylw arbennig i fanylion: Byddwch yn gwella eich gallu i gadw cofnodion cywir o lefelau stoc a sylwi ar unrhyw anghysondebau yn y data. 
  • Gwaith tîm: Byddwch yn datblygu sgiliau fydd yn eich helpu i weithio gydag eraill mewn amgylchedd cydweithredol. 
  • Sgiliau gwasanaeth cwsmer: Byddwch yn ennill profiad o ddarparu gwasanaeth eithriadol i'r cyhoedd a delio gydag ymholiadau a chwynion. 
  • Gweithio'n dda o dan bwysau: Byddwch yn dysgu sut i reoli’ch amser yn effeithiol a perfformio'n dda o dan bwysau. 
  • Rheoli stoc: Byddwch yn datblygu’ch sgiliau wrth gynnal lefelau stoc, archebu stoc newydd, a dadansoddi tueddiadau sy'n dod i'r amlwg. 
  • Gwneud profion PAT: Byddwch yn dysgu i adnabod pa offer trydanol sydd angen cael ei brofi. 

Mae hwn yn gyfle gwych i chi ddatblygu sgiliau gwerthfawr, cyfrannu at y gymuned, a ffurfio rhan o dîm cyfeillgar sy'n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth eithriadol. Os ydych yn unigolyn brwdfrydig a ddibynadwy ac yn awyddus i ddysgu, rydym yn eich annog i wneud cais! 

Oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle hwn?

Eisiau cymryd rhan? Cliciwch ar y botwm a rhowch eich manylion i ddechrau!