Aelod o’r tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid - Siop y Pentre

  • Foothold Cymru

  • : 08/07/2024

  • Llanelli

Fel aelod gwirfoddol o dîm Gwasanaeth Cwsmeriaid Siop y Pentref, byddwch yn gyfrifol am amrywiaeth o dasgau i sicrhau profiad siopa pleserus i’n cwsmeriaid.

Rôl: Aelod o’r tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid
Lleoliad:
Siop y Pentre Foothold
Dyddiad dechrau:
5ed Awst 2024

Hoffwn i wirfoddoli 4 4 lle ar ôl
thumbnail

Cyfrifoldebau

Bydd eich dyletswyddau’n cynnwys: 

  • Stocio silffoedd a rhoi trefn ar y nwyddau. 
  • Gosod stoc mewn modd deniadol a sicrhau bod pob ardal yn y siop yn lân ac yn daclus.
  • Perfformio tasgau glanhau megis tynnu llwch, mopio’r lloriau, mynd â’r biniau allan ac unrhyw ddyletswyddau eraill sydd angen cael eu cyflawni er mwyn cadw'r siop yn lân. 
  • Bod yn gyfeillgar ac yn broffesiynol wrth groesawu cwsmeriaid i’r siop. 
  • Ateb cwestiynau am y cynnyrch a’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig yn y siop. 
  • Cyfeirio cwsmeriaid i wahanol ardaloedd yn y siop. 
  • Ymdrin ag ymholiadau gan gwsmeriaid, ac ateb unrhyw gwestiynau. 
  • Darparu gwasanaeth o safon a rhoi gwybodaeth briodol i gwsmeriaid. 
  • Rhoi amcan o gost y gwahanol wasanaethau a ddarperir, a chadarnhau argaeledd y cynnyrch yn y siop. 
  • Cymryd taliadau gan gwsmeriaid. 
  • Ailstocio silffoedd. 

Beth fydd ei angen arnoch

  • Agwedd “gallu gwneud” a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. 
  • Parodrwydd i fynd yr ail filltir i sicrhau bodlonrwydd ein cwsmeriaid.   
  • Cyfrifoldeb a dibynadwyedd. 
  • Mwynhau gweithio mewn amgylchedd cyflym ac amrywiol. 
  • Bod yn chwaraewr tîm da. 
  • Byddai profiad blaenorol o weithio gyda chwsmeriaid yn fantais, ond nid yw’n hanfodol. Y peth pwysicaf yw cael yr agwedd gywir. 

Sgiliau y byddwch yn eu datblygu

Wrth wirfoddoli fel aelod o’n tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid, byddwch yn datblygu’r sgiliau canlynol:  

  • Sgiliau gwasanaeth cwsmer: Byddwch yn datblygu eich gallu i ryngweithio gyda chwsmeriaid, deall eu hanghenion, a chynnig gwasanaeth rhagorol. 
  • Sgiliau cyfathrebu: Byddwch yn gwella eich gallu i gyfleu gwybodaeth mewn ffordd glir ac effeithiol. 
  • Sgiliau trefnu da: Byddwch yn dysgu sut i reoli stoc, tracio nwyddau sy’n cael eu danfon, a chadw'r siop yn lân ac yn drefnus. 
  • Sgiliau datrys problemau: Byddwch yn datblygu’ch gallu i ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid a datrys problemau yn effeithlon.
  • Sgiliau rheoli amser: Byddwch yn dysgu sut i reoli'ch amser yn effeithiol i gyflawni nifer o dasgau wrth weithio mewn amgylchedd cyflym. 
  • Gwaith Tîm: Byddwch yn dysgu i weithio ar y cyd er mwyn cyflawni nodau cyffredin. 
  • Talu sylw arbennig i fanylion: Byddwch yn datblygu eich gallu i sylwi ar fanylion fydd yn helpu i gadw’r siop yn lân ac wedi’i stocio’n dda. 
  • Sgiliau gwerthu: Byddwch yn dysgu sut i gymryd taliadau gan gwsmeriaid a rhoi amcan o gost y gwahanol wasanaethau a ddarperir, gan wella’r profiad siopa yn gyffredinol.
  • Hylendid bwyd

Mae hwn yn gyfle gwych i chi ddatblygu sgiliau gwerthfawr, cael cyfrannu at y gymuned, a ffurfio rhan o dîm cyfeillgar sy'n ymroddedig i ddarparu gwasanaeth eithriadol i'n cwsmeriaid. Os ydych yn unigolyn brwdfrydig a dibynadwy ac yn awyddus i ddysgu, rydym yn eich annog i wneud cais!

Oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle hwn?

Eisiau cymryd rhan? Cliciwch ar y botwm a rhowch eich manylion i ddechrau!