Cyfrifoldebau
Bydd y tasgau yn cynnwys:
- Helpu i addasu, atgyweirio a gwasanaethu beiciau.
- Newid teiars, addasu breciau, alinio olwynion, a newid rhannau wedi treulio ar y beic.
- Glanhau ac iro.
- Gwirio beiciau yn rheolaidd i sicrhau ansawdd uchel.
- Canfod problemau mecanyddol mwy cymhleth o dan arweiniad y Mecanic Beiciau.
- Rheoli lefelau stoc, gan gynnwys offer a rhannau sbâr.
- Sicrhau bod y gweithdy yn lân ac yn drefnus.
Beth fydd ei angen arnoch
- Agwedd “gallu gwneud” a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Parodrwydd i fynd yr ail filltir i sicrhau bodlonrwydd ein cwsmeriaid.
- Cyfrifoldeb a dibynadwyedd.
- Mwynhau gweithio mewn amgylchedd cyflym ac amrywiol.
- Bod yn chwaraewr tîm da.
- Byddai profiad blaenorol o weithio gyda chwsmeriaid yn fantais, ond nid yw’n hanfodol. Y peth pwysicaf yw cael yr agwedd gywir.
Sgiliau y byddwch yn eu datblygu
Byddwch yn datblygu’r sgiliau canlynol:
- Sgiliau mecanyddol: Deall sut yn union mae beiciau'n gweithio.
- Medrusrwydd â’ch dwylo: Defnyddio offer a rhannau bach i ddadosod beiciau a’u rhoi'n ôl at ei gilydd eto.
- Sgiliau gwasanaeth cwsmer: Rhyngweithio gyda chwsmeriaid a deall eu pryderon ac anghenion er mwyn cynnig gwasanaeth rhagorol.
- Talu sylw i fanylion: Sylwi ar fân broblemau neu namau ar y beic a allai ddatblygu’n broblemau difrifol.
- Sgiliau datrys problemau: Darganfod pam nad yw beic yn gweithio a dod o hyd i'r ffordd orau i ddatrys y broblem.
- Sgiliau rheoli amser: Cwblhau tasgau atgyweirio a chynnal a chadw yn amserol ac yn effeithlon.
Mae hwn yn gyfle gwych i chi ddatblygu sgiliau gwerthfawr, cyfrannu at fenter bwysig yn y gymuned, a ffurfio rhan o dîm cyfeillgar sy'n ymroddedig i hyrwyddo beicio a chynaliadwyedd. Os ydych yn frwd dros feicio ac yn awyddus i ddysgu, rydym yn eich annog i wneud cais!