Cyfrifoldebau
- Cyflawni tasgau cynnal a chadw gerddi megis plannu, tocio, chwynnu a rhoi dŵr i blanhigion.
- Helpu i dyfu a meithrin planhigion, blodau a choed.
- Defnyddio amrywiaeth o offer pŵer syml ac offer llaw.
- Sicrhau bod yr ardd yn cael ei chynnal a’i chadw’n dda.
Beth fydd ei angen arnoch
- Agwedd “gallu gwneud” a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
- Parodrwydd i fynd yr ail filltir i sicrhau bodlonrwydd ein cwsmeriaid.
- Cyfrifoldeb a dibynadwyedd.
- Mwynhau gweithio mewn amgylchedd cyflym ac amrywiol.
- Bod yn chwaraewr tîm da.
- Byddai profiad blaenorol o weithio gyda chwsmeriaid yn fantais, ond nid yw’n hanfodol. Y peth pwysicaf yw cael yr agwedd gywir.
Sgiliau y byddwch yn eu datblygu
Bydd gwirfoddolwyr yn datblygu’r sgiliau canlynol:
- Technegau cynnal a chadw: Byddwch yn dysgu gwahanol dechnegau cynnal a chadw, a dangos hyfedredd wrth roi’r technegau hyn ar waith.
- Gofalu am y planhigion: Byddwch yn dysgu sut i ofalu am blanhigion a mabwysiadau arferion tyfu da.
- Hyfedredd wrth ddefnyddio cyfarpar: Byddwch yn ennill profiad o ddefnyddio offer pŵer ac offer llaw (neu’n dangos awydd i ddysgu) er mwyn cwblhau tasgau garddio.
- Rhyngweithio gyda chwsmeriaid: Byddwch yn gwisgo'n smart a theimlo’n hyderus wrth ddelio gyda chleientiaid.
Mae'r rôl hon yn cynnig profiad gwerthfawr o ran plannu, tocio ac adnabod planhigion, adeiladu a dylunio gerddi, a thirlunio. Os oes gennych chi lygad craff am fanylion, yn angerddol am arddwriaeth, ac yn gallu dangos meddylfryd ymarferol, rydym yn eich annog i ymuno â’r tîm i'n helpu i greu a chynnal mannau awyr agored prydferth.
Mae hwn yn gyfle gwych i chi gyfrannu at y gymuned, datblygu sgiliau ymarferol, a ffurfio rhan o dîm cyfeillgar sy'n ymroddedig i gynnal a gwella gerddi a mannau gwyrdd yn yr ardal leol. Ymgeisiwch nawr i ddod yn aelod hanfodol o’n tîm garddio!