Cyfrifoldebau
Gall eich cyfrifoldebau gynnwys:
- Cymryd rhan mewn sesiynau casglu sbwriel gyda'r nod o lanhau ardaloedd lleol.
- Helpu i greu a chynnal mannau gwyrdd cymunedol.
- Cymryd rhan mewn prosiectau ailgylchu ac atgyweirio i leihau lefelau gwastraff.
- Codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol yn y gymuned.
- Gweithio ar y cyd ar unrhyw fentrau amgylcheddol eraill yr ydych yn teimlo'n angerddol yn eu cylch.
Beth fydd ei angen arnoch
- Rhaid teimlo’n angerddol am gynaliadwyedd amgylcheddol a dangos awydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
- Parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn gwahanol fathau o weithgareddau.
- Dibynadwyedd ac ymrwymiad i gyflawni nodau'r prosiect.
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
Sgiliau y byddwch yn eu datblygu
Bydd gwirfoddolwyr yn ennill neu'n datblygu'r sgiliau canlynol:
- Ymwybyddiaeth amgylcheddol: Byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o arferion cynaliadwy a materion amgylcheddol.
- Ymgysylltu â'r gymuned: Byddwch yn dysgu sut i ymgysylltu'n effeithiol â'r gymuned ac annog pobl i gefnogi mentrau gwyrdd.
- Gwaith tîm: Byddwch yn cydweithio gydag aelodau o'r gymuned a gwirfoddolwyr eraill i gyflawni nodau cyffredin.
- Sgiliau trefnu da: Byddwch yn cynllunio a chynnal digwyddiadau a phrosiectau cymunedol.
- Sgiliau datrys problemau: Byddwch yn mynd i'r afael â heriau amgylcheddol mewn ffordd greadigol ac effeithiol.
- Sgiliau cyfathrebu: Byddwch yn gwella eich gallu i godi ymwybyddiaeth ac addysgu eraill am gynaliadwyedd amgylcheddol.
Ymunwch â ni ar ein prosiect Cwblhau'r Cylch a helpu i sicrhau dyfodol gwyrdd i Lanelli. Mae hwn yn gyfle gwych i chi ddatblygu sgiliau gwerthfawr, cael cyfrannu at fenter arloesol, a ffurfio rhan o gymuned sy'n ymroddedig i gyflawni sefyllfa ddiwastraff. Ymgeisiwch nawr i ddod yn Hyrwyddwr Hinsawdd!