Cyfrifoldebau
- Cwblhau’r holl hyfforddiant ar gyfer cymhwyster lefel FREC 3.
- Gweithio’n dda fel rhan o dîm cymorth cyntaf, gan gydweithio â gwirfoddolwyr eraill a chefnogi eich gilydd i ddarparu’r gofal gorau posibl.
- Bod yn garedig ac yn ofalgar tuag at aelodau o’r cyhoedd sydd angen cymorth.
- Cadw pen call ac ymateb fel y’ch hyfforddwyd mewn sefyllfaoedd brys.
- Trin popeth o grafiad ar y pen-glin i achos cardiaidd wrth fod ar Ddigwyddiadau.
Beth fydd ei angen arnoch
- Bod yn 16 oed neu’n hŷn.
- Brwdfrydedd dros ennill profiad fel ymatebydd cyntaf.
- Dyfalbarhad i ymgymryd â hyfforddiant lefel uchel a’i gwblhau.
- Tosturi tuag at y rhai sydd angen gofal meddygol.
- Sgiliau gwrando o ansawdd da i weithio’n effeithiol mewn tîm cymorth cyntaf.
- Parch tuag at aelodau o’r cyhoedd a gwirfoddolwyr eraill.
- Agwedd weithgar ac ymarferol tuag at reoli amser ac adnoddau.
Sgiliau y byddwch yn eu datblygu
- Cwrs Cymorth Cyntaf 3 awr (FAW).
- Hyfforddiant Diogelu Grŵp A a B.
- Cymhwyster Lefel FREC 3.
- Profiad ar orsafoedd cymorth cyntaf mewn amryw o ddigwyddiadau.
- Cyfleoedd i ymgymryd ag hyfforddiant pellach.
- Adeiladu perthnasoedd gyda phobl brofiadol yn y sectorau gofal iechyd a ymateb brys.