Youth Support Service: Panel Grantiau Sir Gár Grant Panel

  • Carmarthenshire Council

  • : 31/10/2025

  • Caerfyrddin

  • Rhydaman

  • Porth Tywyn

  • Cwmafan

  • Sanclêr

  • Cydweli

  • Lacharn

  • Llanymddyfri

  • Castell Newydd Emlyn

  • Llanybydder

  • Llandybie

  • Llandeilo

  • Cross Hands

  • Llanelli

Panel Grantiau Sir Gâr yw prosiect i bobl ifanc 14 – 25 oed, a gaiff ei redeg gan Wasanaeth Cefnogi Ieuenctid Sir Gâr a Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr (CAVS).

Bydd pobl ifanc ar y Panel Grantiau Ieuenctid yn gyfrifol am ddosbarthu arian (grantiau hyd at £5000) i sefydliadau sy’n cefnogi amrywiaeth o brosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli, wedi’u harwain a’u cyflawni gan bobl ifanc.

Chi sy’n Gwneud y Penderfyniadau: Fel aelod o’r panel, byddwch yn rhan o dîm sy’n ystyried ceisiadau gan bobl ifanc eraill sydd angen cyllid ar gyfer eu prosiectau.

Hyfforddiant a Chymorth: Fyddwch chi ddim ar eich pen eich hun! Bydd hyfforddiant ar gael i’ch helpu i ddeall sut mae’r panel grantiau’n gweithio, sut i asesu ceisiadau, a beth i chwilio amdano mewn prosiect da.

Cyfarfodydd: Byddwn yn cwrdd yn rheolaidd (unwaith y mis) i ddod i adnabod ein gilydd, trafod y ceisiadau ac wneud penderfyniadau gyda’n gilydd.

Mae ymuno â’r Panel Grantiau Ieuenctid yn gyfle cyffrous i fod yn wneuthurwr penderfyniadau go iawn a helpu i lunio prosiectau sy’n dod â budd i bobl ifanc ledled Sir Gâr.

Hoffwn i wirfoddoli 5 5 lle ar ôl
circle of young people looking down smiling

Cyfrifoldebau

  • Adolygu ceisiadau grant sydd wedi’u cyflwyno, eu trafod fel grŵp a phenderfynu gyda’n gilydd pa brosiectau sy’n cael cyllid a faint o arian y byddant yn ei gael.
  • Cynrychioli lleisiau pobl ifanc drwy roi mewnwelediad i anghenion ac i faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc leol er mwyn llywio penderfyniadau.
  • Gweithio fel grŵp ac yn aelod o dîm cefnogol a pharchus, gan wrando ar bob barn ac ystyried pob safbwynt er mwyn gwneud penderfyniadau teg a gwybodus.
  • Mynychu cyfarfodydd a sesiynau hyfforddi (fel arfer yn fisol neu’n chwarterol).
  • Cynnal cyfrinachedd a pharchu preifatrwydd ymgeiswyr, gan gadw trafodaethau’r panel a manylion y ceisiadau yn gyfrinachol.
  • Gweithio gyda sefydliadau i sicrhau bod y Grant yn cael ei ddefnyddio a’i wario o fewn yr amserlen a roddwyd.

Beth fydd ei angen arnoch

  • Sgiliau cyfathrebu a gwrando da

  • Aeddfedrwydd ac ymdeimlad o gyfrifoldeb

  • Diddordeb ac ewyllys i fod yn rhan o’r gwaith

Sgiliau y byddwch yn eu datblygu

  • Sgiliau gwneud penderfyniadau a negodi, ynghyd â hyfforddiant

  • Sgiliau cyfathrebu

  • Profiad o weithio fel aelod o grŵp

  • Hyder gwell

  • Llythrennedd ariannol a chyllidebu

Oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfle hwn?

Eisiau cymryd rhan? Cliciwch ar y botwm a rhowch eich manylion i ddechrau!