Roedd y Volunteens yn falch o fod yn bresennol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Ieuenctid Sir Gâr heddiw. Yn y cyfarfod, cyflwynwyd amrywiol dystysgrifau i'r bobl ifanc i nodi'r oriau gwirfoddoli a gyflawnwyd ganddynt. Derbyniodd un aelod yn benodol, Evie, dystysgrif yn nodi 50 awr o wirfoddoli.

ERTHYGL: Pobl Ifanc yn Cymryd yr Awenau yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol