Mae pobl ifanc o Ysgol Heol Goffa yn cymryd rhan mewn menter newydd lle maent yn cymryd drosodd ein Siop Gymunedol! Mae'r bobl ifanc hyn yn cymryd rhan mewn diwrnod hyfforddiant lle maent yn dysgu am y Siop, yn deall egwyddorion allweddol gweithio yno ac yn datblygu sgiliau rheoli arian. Yna am fis ar ôl hynny, maent yn rhedeg y siop – mae hyn yn cynnwys popeth o dderbyn a storio'r cyflenwadau i ddelio â chwsmeriaid, o gylchdroi stoc a gwirio dyddiadau i sicrhau bod gwastraff bwyd yn cael ei ddileu'n iawn neu ei roi yn y compostio, a mwy!