Mae Volunteens yn cefnogi eu cymuned.

Bu dysgwyr Blwyddyn 10 o Ysgol Strade yn brysur yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, wrth iddynt weithio mewn cydweithrediad â’n tîm Volunteens i gefnogi creu pecynnau llesiant ar gyfer aelodau o’r gymuned leol sy’n cael trafferth gyda digartrefedd a syrffio soffa.

Bu’r bobl ifanc yn gweithio gyda’i gilydd i greu 30 o becynnau, gyda chymorth rhoddion gan y gymuned.

Mae’r pecynnau hanfodol hyn yn cynnwys eitemau fel het, menig, sgarff, sanau, nwyddau ymolchi, cynhyrchion mislif, ynghyd â rhai eitemau Nadoligaidd ychwanegol megis bisgedi neu deisennau mins. Roedd rhai pecynnau hefyd yn cynnwys bwyd anifeiliaid anwes lle bo angen.

Yn dilyn ymgyrch a grëwyd gan y bobl ifanc i geisio rhoddion ar gyfer y pecynnau, cafodd y prosiect gefnogaeth drwy rodd hael o bast dannedd a brwsys dannedd gan bractis deintyddol lleol Avenue Villa yn Llanelli.

Roedd Foothold Cymru hefyd yn gallu rhoi’r rhan fwyaf o’r eitemau dillad, cynhyrchion mislif a bwyd anifeiliaid anwes ar gyfer y pecynnau.

Mae pob pecyn hefyd yn cynnwys cerdyn wedi’i wneud â llaw gan y bobl ifanc, gyda neges ystyriol y tu mewn yn atgoffa pobl eu bod yn cael eu gweld a’u cydnabod, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

Ochr yn ochr â’r prosiect, mae’r bobl ifanc wedi bod yn dysgu am ddigartrefedd, yr effaith y mae’n ei chael, a’r rhesymau a all weithiau arwain at hyn.

Dosbarthwyd y pecynnau yng Nghanolfan y Lantern ddydd Iau, 11 Rhagfyr, i’r rhai oedd fwyaf mewn angen.

Gwaith gwych, Volunteens! 🌟

wellbeing bags